Psalms 93

Duw, y Brenin

1Yr Arglwydd sy'n teyrnasu!
Mae wedi ei arwisgo'n hardd.
Mae'r Arglwydd wedi ei arwisgo,
a'i gryfder fel gwregys am ei ganol.
Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!
2Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl;
ti wedi bodoli bob amser!
3Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O Arglwydd,
roedd sŵn y tonnau fel taranau,
sŵn y tonnau trymion yn torri.
4Ond roedd yr Arglwydd, sydd yn uwch na'r cwbl,
yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr,
ac yn gryfach na thonnau mawr y môr.
5Mae dy orchmynion di yn hollol sicr.
Sancteiddrwydd sy'n addurno dy dŷ,
O Arglwydd, a hynny am byth!
Copyright information for CYM